OWEN, OWEN (1806-1874), diwinydd a meddyg

Enw: Owen Owen
Dyddiad geni: 1806
Dyddiad marw: 1874
Priod: Mary Anne Owen (née Beynon)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwinydd a meddyg
Maes gweithgaredd: Crefydd; Meddygaeth
Awdur: Hywel David Emanuel

Ganwyd yn 1806 ym Machynlleth, Sir Drefaldwyn, yn ôl Williams, Montgomeryshire worthies , 218, eithr ym Manc-y-felin, Sir Gaerfyrddin, yn ôl Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, i, 58. Addysgwyd ef ar gyfer y weinidogaeth Annibynnol yng ngholegau Gaerfyrddin (efallai tua 1830) a Highbury, a bu'n weinidog ym Maenor Bŷr, Sir Benfro, a Liskeard yng Nghernyw. Yn 1849 ymgymerodd â gweinidogaeth capel Heol-y-felin, Casnewydd, sir Fynwy, ac er iddo ymddiswyddo ymhen ychydig fisoedd, parhaodd i fyw yng Nghasnewydd hyd 1854 o leiaf. Wedi ymuno â'r Eglwys Sefydledig a threulio peth amser yn Birmingham, ymfudodd i America, a bu'n feddyg yn Chicago hyd ei farw. O dan y ffugenw ' Celatus,' ysgrifennodd y gweithiau canlynol o natur grefyddol, addysgol, a gwyddonol: The Working Saint, 1843; The Modern Theme, 1848 a 1854; A Glass of Wholesome Water, The Shepherd's Voice, The Taper for lighting the Sabbath School Lamps, tua 1854; The Public Pearl, 1854; a The Sources of Science, 1854. Cymerai ddiddordeb hefyd mewn seryddiaeth, a darlithiai ar y pwnc hwnnw. Ei wraig oedd Mary Anne Owen, awdures. Dywedir iddo wario y rhan fwyaf o'i ffortiwn hi yn ogystal â'i eiddo ei hun ar gynlluniau clodwiw ond anymarferol. Bu farw yn 1874.

Merch oedd ei wraig, MARY ANNE OWEN (bu farw c. 1870) i David Beynon, ac ŵyres John Beynon, Trewern, gerllaw'r Tŷ-gwyn-ar-Daf, siryf sir Geredigion yn 1783. Yn 1852, o dan y ffugenw ' Celata,' cyhoeddodd The Early Blossom, cyfrol fechan (gyda darluniau) o ymddiddan a barddoniaeth ar gyfer ieuenctid.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.