OWEN, ROBERT (1771 - 1858), Sosialydd Utopaidd

Enw: Robert Owen
Dyddiad geni: 1771
Dyddiad marw: 1858
Priod: Caroline Owen (née Dale)
Plentyn: Richard Dale Owen
Plentyn: David Dale Owen
Plentyn: Robert Dale Owen
Rhiant: Robert Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Sosialydd Utopaidd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: James Frederick Rees

Ganwyd yn y Drenewydd, Sir Drefaldwyn, 14 Mai 1771, mab Robert Owen, cyfrwywr ac 'ironmonger,' a'i wraig, merch amaethwr lleol o'r enw Williams. Ychydig o addysg ffurfiol a gafodd gan iddo adael cartref yn 10 oed i gael ei brentisio yn Stamford, sir Lincoln, gyda gwerthwr dillad, James McGuffog, gŵr o'r Alban. Ar ôl bod am gyfnod byr yn gynorthwywr i ddilledydd yn Llundain symudodd i Fanceinion lle y cynyddodd yn gyflym yn y gwaith o nyddu cotwm. Aeth ei fusnes ag ef i Sgotland, lle y prynodd felinau cotwm New Lanark iddo'i hun ac i'w bartneriaid. Yma cychwynnodd arbrawf mawr mewn adeiladau cyd-gymdeithasol - arbrawf y mae ei enwogrwydd yn gorwedd arno. Yn rhinwedd yr hyn a wnaeth yn New Lanark cyfrifir ef yr arloesydd pennaf yn y gwaith o ddiwygio ffatrïoedd, yn dad mudiad cydweithrediad yn nhrosglwyddo'r defnyddiau a gynhyrchid mewn ffatrïoedd, etc., ac yn sylfaenydd ysgolion mamaethol i blant ieuainc y gweithwyr. Yr oedd ei enwogrwydd fel diwygiwr gymaint nes gwahoddwyd ef i roddi cyfarwyddyd yn yr argyfwng diwydiannol a ddilynodd yn sgîl cyfnod diwedd y rhyfeloedd Napoleonaidd. Cymeradwyodd ef sefydlu unedau cymdeithasol a allai dyfu i fod yn hunanddigonol. Yn ystod gweddill ei oes bu'n pregethu'r feddyginiaeth hon ar gyfer y broblem gymdeithasol. Cychwynnodd arbrofion - yr enwocaf i gyd yn New Harmony, Indiana, U.D.A. Ei gred sylfaenol ef oedd fod cymeriad yn cael ei lunio gan amgylchiadau ac amgylchedd. Gan ei fod yn traethu bod yr holl grefyddau wedi cael eu gwenwyno gan gamsyniadau ac na allai dynion fyw mewn heddwch a chytgord nes y byddai iddynt gydnabod y ffaith honno, crewyd rhagfarn gref yn erbyn ei ddysgeidiaeth. Dychwelodd i'r Drenewydd yn 1858; bu farw yno ar 17 Tachwedd, a chladdwyd ef yn yr hen fynwent; codwyd cofeb iddo yn y fynwent yn 1902 gan y mudiad cydweithredol ('The Co-operative Movement'). Pan sefydlwyd y Swyddfa Lafur Gydgenedlaethol (yr 'International Labour Office') yn Geneva, rhodd pobl Cymru i'r sefydliad - fel yr oedd yn gwbl weddus - ydoedd cerflun o Robert Owen o waith Syr William Goscombe John, i'w ddodi yn y llyfrgell. Priododd â Caroline Dale, merch David Dale, Glasgow. Ymsefydlodd eu plant yn yr America. Bu'r hynaf, ROBERT DALE OWEN (1801 - 1877), yn cynrychioli'r Unol Daleithiau yn llys Naples. Gwnaeth DAVID DALE OWEN (1807 - 1860) yr archwiliad cyntaf i ddaeareg y 'Middle West.' Bu RICHARD DALE OWEN yn athro gwyddoniaeth naturiol ym Mhrifysgol Nashville; enillodd hefyd beth clod yn Rhyfel Cartrefol yr Unol Daleithiau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.