OWEN, ROBERT (1834 - 1899), Pennal, Sir Feirionnydd, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a llenor

Enw: Robert Owen
Dyddiad geni: 1834
Dyddiad marw: 1899
Rhiant: Robert Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Richard Thomas

Ganwyd yn 1834; yr oedd yn fab i Robert Owen, Neuadd Ddu, Blaenau Ffestiniog, a'i fam yn ferch Tyddyn Llwyn, Llanfrothen. Wedi iddo fod yng Ngholeg y Bala (1857-61) bu ym Mhrifysgol Glasgow ar bwys ysgoloriaeth y Dr. Williams, a derbyniodd ei radd yno ym 1865. Bu'n fugail eglwysi Pennal a Maethlon 1865-99. Yr oedd yn llenor a hanesydd da, a daeth o'i law amryw gyfrolau megis Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionnydd (dwy gyfrol), 1888; Ysgolfeistriaid Mr. Charles; Cofiant Dafydd Rolant, Pennal; Cofiant y Parch. Griffith Williams, Talsarnau . Bu farw 8 Tachwedd 1899.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.