Ganwyd 1785 ym Miwmares, a bu'n ddisgybl yn yr ysgol ramadeg yno. Gwasnaethodd fel môr-filwr yn y rhyfel yn erbyn Napoleon. O 1824 ymlaen cysylltir ei enw â thref Caernarfon, lle yr adwaenid ef fel William Owen ' Y Pab.' Yn ôl ei dystiolaeth ef ei hun, derbyniodd y llysenw hwn mewn canlyniad i ryw bamffled a gyhoeddodd yn 1829 yn amddiffyn y safiad a wnaeth ardalydd Môn yn Nhŷr Arglwyddi dros ryddfreiniad y Pabyddion. Ac am yr un rheswm, meddai, aeth mor ffiaidd yng ngolwg ei gydwladwyr fel na chwenychai neb roddi gwaith iddo. Ymddengys mai'n llifio coed mewn pwll llif y bu am gyfnod helaeth o'i oes. Ymddiddorai'n fawr mewn hynafiaethau; clywir amdano o bryd i'w gilydd yn archwilio hen gofrestrau yn Llundain, neu'n dehongli hen arysgrifau yma ac acw yng Nghymru. Ond fel hanesydd, hygoelus i'r eithaf ydoedd, fel y dengys hynny o'i waith sydd ar glawr, sef Drych Crefyddol yn dangos Dechreuad y Grefydd Brotestanaidd, etc., 1824; Hanes Cyflafan neu Ddinystr y Beirdd Cymreig, etc. (traethawd buddugol yn eisteddfod Cymreigyddion Caernarfon, 1824); Y Drych Bradwriaethol, sef Hanes Brad y Cyllyll Hirion, 1825; Hanes Dechreuad Cenedl y Cymry, 1826; Hanes Owain Glandwr, [ sic ] 1833; a History of Dolbadarn Castle, Llanberis (d.d.). Treuliodd ei oes mewn dygn dlodi a bu farw 15 Chwefror 1864.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.