PAMPLIN, WILLIAM (1806 - 1899), llysieuydd
Enw: William Pamplin
Dyddiad geni: 1806
Dyddiad marw: 1899
Priod: Margaret Pamplin (née Parry)
Priod: Caroline Pamplin (née Hunneman)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llysieuydd
Maes gweithgaredd: Meddygaeth; Natur ac Amaethyddiaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Evan Roberts
Ganwyd yn Chelsea, 5 Awst 1806. Cyhoeddodd yn 1827 restr o blanhigion prin Battersea a Clapham; sgrifennodd lawer i'r Magazine of Natural History; ymgymerth yn 1855 â golygyddiaeth The Phytologist, a phriododd â Caroline Hunneman, merch perchennog y cylchgrawn. Ar amryw ymweliadau â Gogledd Cymru, ymserchodd yn Llandderfel, ac wedi ymddeol o'i fusnes fel llyfrwerthwr a chyhoeddwr yn 1864, cododd dŷ yno (Pen-y-llan), a bu fyw yno weddill ei oes, gan astudio llysieueg ac adar y fro. Bu farw ei wraig yn 1876, ac yn 1878 priododd yntau'r eilwaith â Margaret Parry o Flaen-y-cwm, Bethel (Llandderfel). Bu farw 9 Medi 1899, a chladdwyd yn Llandderfel.
Awdur
- Evan Roberts, (1877 - 1958), Llandderfel
Ffynonellau
-
Yr Haul, Tachwedd a Rhagfyr 1939;
-
Journal of Botany (1830–57), Rhagfyr 1899, ond nid yn Wandsworth fel y dywedir yno, y ganed ef;
-
Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionydd, I, i, 1949, a I, ii, 1950 — ond nid yn Wandsworth, fel y dywed y ddau ddiwethaf, y ganed ef.
- Y mae rhai o'i lawysgrifau yn N.L.W., ac eraill yng Ngholeg y Gogledd.
Dolenni Ychwanegol
- VIAF: 59825338
- Wikidata: Q20734693
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/