PARKER, JOHN (1798-1860), clerigwr ac arlunydd

Enw: John Parker
Dyddiad geni: 1798
Dyddiad marw: 1860
Rhiant: Sarah Parker (née Browne)
Rhiant: Thomas Netherton Parker
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac arlunydd
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Crefydd
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 3 Hydref 1798, ail fab Thomas Netherton Parker, Sweeney Hall, gerllaw Croesoswallt, a'i wraig, Sarah Browne (aeres ei hewythr, Edward Browne, Sweeney Hall). Cafodd ei addysg yn ysgol Eton a Choleg Oriel, Rhydychen (B.A. 1820, M.A. 1825). Bu'n gurad Moreton Chapel, Croesoswallt, am gyfnod byr cyn cael rheithoraeth Llanmerewig, Sir Drefaldwyn, o'r lle y symudodd, yn 1844, i ficeriaeth Llanyblodwel, Sir Amwythig. Bu farw 31 Awst 1860 yn Llanyblodwel, a'i gladdu ym mynwent yr eglwys yno. Gwnaeth lawer o gyfnewidiadau ac o atgyweiriadau yn y naill eglwys a'r llall, yn ôl ei gynlluniau ei hun, ac i raddau helaeth ar ei gost ei hun, gan adeiladu tŵr a phorth yn Llanmerewig a thŵr yn Llanyblodwel; adeiladodd ysgol ac ysgoldy yn Llanyblodwel. Etifeddodd stad Sweeney yn 1854 ar farw ei dad (a oedd yn gynlluniwr tai ac yn awdur llyfrau), a phan fu John Parker ei hunan farw yn 1860 aeth y stad i feddiant ei chwaer, Mary Parker.

Nid fel offeiriad plwyfi yng Nghymru a'r goror nac fel perchennog stad y cofir am John Parker bellach, eithr fel arlunydd celfydd, yn enwedig am ei waith mewn dyfr-liw. Darlunio golygfeydd natur, eglwysi a'r hyn a oedd ynddynt, yn enwedig eglwysi 'Gothig,' a chestyll, oedd ei brif ddiddordebau. Ymwelodd ag ardal y Wyddfa ddeng mlynedd yn olynol; darluniodd sgriniau croglofftydd lle bynnag y ceid hwynt yn eglwysi Cymru a hefyd y prif fathau o fedyddfeini. Y mae dros fil o ddarluniau o'i waith yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru heblaw y rhai sydd yn nhai rhai o ddisgynyddion ei chwaer. Ymwelodd â Lloegr, Iwerddon, a chyfandir Ewrop hefyd gan ddarlunio pob math o eglwysi 'Gothig,' etc.; gwnaeth hefyd lu o ddarluniau blodau a phlanhigion. Cyhoeddodd, 1831, The Passengers: containing the Celtic Annals.

Yr oedd ei chwaer, MARY PARKER (1799 - 1864), a ddaeth yn LADY LEIGHTON yn 1832 (ar ei phriodas â Syr Baldwin Leighton, 7fed barwnig, Loton, Sir Amwythig), yn arlunydd talentog hefyd. Ceir esiamplau o'i gwaith hithau yn y Llyfrgell Genedlaethol, rhai ohonynt yn gyffelyb i waith ei brawd a rhai ohonynt yn portreadu personau. Hyhi (yn unig) a lwyddodd i wneuthur darlun o'r ddwy ' Ladies of Llangollen '; dyma'r darlun adnabyddus y gwnaethpwyd copïau lithograff ohono'n ddiweddarach (y mae darlun gwaelach ar gael, wedi ei gopïo heb ganiatâd oddi ar lun Mary Parker; am yr hanes gweler Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, v, 207-8).

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.