PARRY, DAVID (1760 - 1821), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Enw: David Parry
Dyddiad geni: 1760
Dyddiad marw: 1821
Priod: Margaret Parry (née Evans)
Plentyn: Mariah Harries (née Parry)
Rhiant: Dafydd Parry
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts
Ganwyd 13 Chwefror 1760 yn Llwyndiriad, Caeo, Sir Gaerfyrddin, mab Dafydd Parry. Ymunodd â'r Methodistiaid yn ieuanc a dechreuodd bregethu yn 1778. Bu'n efrydydd am dymor byr yn Nhrefeca. Priododd â Margaret Evans, Llofft-wen, Llanwrtyd, yn 1784, a symudodd i fyw i'r Gilfach, Llanwrtyd, c. 1797-8. Yr oedd yn un o'r fintai a neilltuwyd yn ordeiniad cyntaf y Methodistiaid yn Llandeilo Fawr, 1811. Yr oedd yn bregethwr nodedig iawn a gwasnaethai'n aml yn y sasiynau. Bu farw 27 Ebrill 1821, a chladdwyd ef y tu mewn i gapel Rhydybere.
Awdur
- Y Parchedig Gomer Morgan Roberts, (1904 - 1993)
Ffynonellau
-
Y Drysorfa, 1834, 65
-
Y Cylchgrawn, 1884, 86
-
Methodistiaeth Cymru (1851–6), iii, 335
- Joseph Evans, Biographical Dictionary of Ministers and Preachers of the Welsh Calvinistic Methodist Body … to the close of the year 1850 (1907), 234
- J.M. Jones, Ordeiniad 1811 ymysg y Methodistiaid Calfinaidd (1911), 147
Dolenni Ychwanegol
- Wikidata: Q20732878
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/