PARRY, DAVID ('Dewi Moelwyn '; 1835 - 1870), gweinidog a bardd

Enw: David Parry
Ffugenw: Dewi Moelwyn
Dyddiad geni: 1835
Dyddiad marw: 1870
Priod: Kate Parry (née Williams)
Rhiant: John Parry
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Hywel David Emanuel

Ganwyd yn 1835 yn fab John Parry, Ffestiniog, Sir Feirionnydd. Derbyniodd ryw gymaint o addysg fel bachgen, ac yn 1850, pan nad oedd ond 15 oed, enillodd y wobr gyntaf am gywydd ar 'Yr Argraffwasg' yn eisteddfod Ffestiniog. Derbyniwyd ef yn aelod o gapel Saron, Ffestiniog, ond symudodd i Gaernarfon yn 1856. Yno ymaelododd yng nghapel Pendref, ac yn 1857 dechreuodd bregethu. Derbyniwyd ef i Goleg (A.) y Bala yn 1861 fel efrydydd ar gyfer y weinidogaeth Annibynnol (Y Dysgedydd, 1861, 439), ac ordeiniwyd ef yn weinidog yng nghapel Adulam, Tredegar, sir Fynwy, ddydd Nadolig 1863. Ymddiswyddodd yn 1867, ac ymfudodd i America. Ymgymerodd â gweinidogaeth capel yr Annibynwyr yn Providence, Scranton, talaith Pennsylvania, a llafuriodd yno o Fedi 1867 hyd ei farwolaeth 8 Medi 1870. Ychydig cyn ei farw, priododd â Kate Williams o Bradford, Pennsylvania. Ef oedd golygydd barddoniaeth y newyddiadur Cymraeg Baner America a gychwynnwyd yn Hyde Park, Pennsylvania, yn 1868.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.