PARRY, WILLIAM JOHN (1842 - 1927), arweinydd Llafur ac awdur

Enw: William John Parry
Dyddiad geni: 1842
Dyddiad marw: 1927
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arweinydd Llafur ac awdur
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: David Thomas

Ganwyd 28 Medi 1842 ym Methesda, Arfon. Bu'n weithgar iawn gyda gwleidyddiaeth ar hyd ei oes, a chymerth ran flaenllaw yn etholiad 1868. Darllenodd bapur i'r Cymmrodorion yn eisteddfod genedlaethol 1882, ar ' Lywodraeth Leol, Daleithiol, ac Ymerodrol,' ond nis cyhoeddwyd yn nhrafodion y gymdeithas hyd 1917-8, am yr ystyrid ef ar y pryd yn rhy chwyldroadol; cynigiodd ynddo aildrefnu llywodraeth leol, diwygio Tŷ'r Arglwyddi, a sefydlu cynghorau taleithiol i Gymru, Sgotland, etc. Yr oedd yn aelod o gyngor cyntaf Sir Gaernarfon yn 1889, ac yn gadeirydd iddo yn 1892-3. Cyflwynodd lawer iawn o lyfrau a phapurau i'r Llyfrgell Genedlaethol ac i lyfrgell Coleg y Gogledd. Cymerth ran amlwg yn sefydliad Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru yn 1874, ac ef oedd ei ysgrifennydd cyntaf, ac yna ei lywydd am flynyddoedd. Ymwelodd â chwarelau Unol Daleithiau yr America yn 1879 ar gais yr Undeb. Cyhoeddodd nifer o lyfrau yn ymwneud â'r chwarelwyr : Caebraichycafn; yr Ymdrafodaeth, 1875; Chwareli a Chwarelwyr, 1897; The Penrhyn Lock-out, 1900-1901; Statement and Appeal, 1901; The Cry of the People, 1906, a golygodd gyda W. J. Williams yr argraffiad Cymraeg o'r tystiolaethau ar chwarelau a chwarelwyr llechi a gyflwynwyd i'r ddirprwyaeth frenhinol ar lafur (1893). Ysgrifennodd lawer i'r Herald Cymraeg, Y Genedl Gymreig, y Caernarvon and Denbigh Herald, a'r North Wales Observer, ar bynciau llafur, prydlesoedd, tiroedd y Goron, ymreolaeth, cynghorau sir, cyflafareddiad, etc. Yr oedd yn un o sylfaenwyr Y Werin yn 1885, ac yn olygydd cyntaf iddi am dair blynedd. Ysgrifennodd lawer hefyd i gylchgronau: Y Dysgedydd, Y Cronicl, Y Geninen, Cymru (O.M.E.), etc. Cyhoeddodd Cofiant Tanymarian, 1886; Cyfrol Jiwbili Capel Bethesda, 1900; Telyn Sankey, 1901; Cofiant Hwfa Môn, 1907; The English Hymnal, 1907; a llawer o bamffledau. Bu farw 1 Medi 1927.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.