PARRY, ROBERT (bu farw 1863), bardd

Enw: Robert Parry
Dyddiad marw: 1863
Rhiant: Mary Parry (née Jones)
Rhiant: Robert Parry
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Enid Pierce Roberts

Ganwyd y mae'n debyg yn Llanbrynmair, yn fab i Robert Parry, curad y plwyf, a'i wraig Mary, ferch John Jones o Esgair Ifan; symudodd y teulu yn ei blentyndod i Eglwys-bach, sir Ddinbych, pan gafodd y tad fywoliaeth Eglwys-bach, 1810-26 (Thomas, A History of the Diocese of St. Asaph, ii, 311). Bwriadai yntau fynd yn glerigwr a chafodd addysg at hynny, ond newidiodd ei feddwl ac am y rhan fwyaf o'i oes bu'n amaethu Plas Efenechtyd a Plas Towerbridge, ger Rhuthyn. Ceir amryw ddarnau o'i farddoniaeth yn y gwahanol gylchgronau. Ef oedd yr ail ar yr awdl, ' Gwledd Belsassar,' yn eisteddfod Dinbych, 1828. Bu farw yn 1863, a chladdwyd ef yn Eglwys-bach.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.