PECOCK, REGINALD (c. 1390 - c. 1461), esgob Llanelwy a Chichester

Enw: Reginald Pecock
Dyddiad geni: c. 1390
Dyddiad marw: 1461
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Llanelwy a Chichester
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Ivor John Sanders

Y mae'n bosibl ei fod o dras Cymreig. Dywed traddodiad mai un o Dalacharn, Sir Gaerfyrddin, ydoedd; er nad oes yr un dystiolaeth bendant o blaid hyn, gwyddys fod rhai yn dwyn yr enw Pecock yn y dref honno yn y Canol Oesoedd. Priododd rhyw Jenkyn le Whitt, Dinbych-y-pysgod, a fu farw yn 1461, ag Elen, aeres Jenkyn Pecoc, Talacharn a Dinbych-y-pysgod - ac efallai i Reginald Pecock ddeillio o'r teulu hwn, serch bod yr arfbais a briodolir i'r esgob yn wahanol i honno a ddygid gan Elen Pecoc. Gelwir ef yn ' presbyter dioecesis Menevensis,' eithr nid ydyw hyn na'r ffaith iddo gael ei ddewis i esgobaeth Gymreig yn profi tras Gymreig; nid oes, ychwaith, unrhyw ôl Cymraeg yn y math o Saesneg a ysgrifennai ef. Yr oedd Pecock yn ddoethur mewn diwinyddiaeth yn Rhydychen, ac yn gymrawd o Goleg Oriel yn y brifysgol honno, 1414-25; cafodd ei ordeinio, 1420-1; bu'n rheithor S. Michael Royal ac yn bennaeth Whittington College, Llundain, 1431-4; yn esgob Llanelwy, 1444-50; ac yn esgob Chichester, 1450-8. Tua 1455, ymddangosodd ei waith mwyaf adnabyddus, A Repressor of Over Much Blaming of the Clergy, ateb i ymosodiadau'r Lolardiaid ar yr Eglwys. Ond mewn gweithiau eraill - am y rhain, gweler yr ysgrif arno yn y D.N.B. - amlygodd olygiadau a ystyrid yn anuniongred, a gwysiwyd ef o flaen llys archesgob Caergaint. Safodd ei brawf am heresi ar 28 Tachwedd 1457, tynnodd ei eiriau yn ôl ar 3 Rhagfyr; darllenwyd ei ddatgyffesiad, a llosgwyd ei lyfrau gerllaw Paul's Cross ar 4 Rhagfyr; wedi hynny anfonwyd ef i Gaergaint a Maidstone o dan ryw fath o ofalaeth - mewn enw. Wedi mis Awst 1458 anfonwyd ef i abaty Thorney, sir Caergrawnt; ymddengys iddo farw yno c. 1461. Ni wyddys fan ei fedd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.