Fe wnaethoch chi chwilio am Pedrog

Canlyniadau

PEDROG, SANT, fl. yn y 6ed ganrif

Enw: Pedrog
Rhiant: Clement
Rhiant: Glywys
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: SANT
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Hywel David Emanuel

Darganfuwyd y 'fuchedd' lawnaf o'r sant hwn yn ddiweddar yn Gotha, yn yr Almaen. Er mai yn Nyfnaint(Dumnonia) a Llydaw y gwnaeth Pedrog ei waith mwyaf, brodor oedd o Went. Yn ôl ' Buchedd Cadog Sant ' (rhagair) a'r achau sydd ar ddiwedd ei 'fuchedd' ei hun, un o feibion Glywys oedd Pedrog. Ond dywed ' Bonedd y Saint ' (Wade-Evans) mai mab Clement, tywysog o Gernyw, oedd ef. Yn ôl ystori ' Buchedd Cadog Sant,' ymwadodd Pedrog â'i hawl i etifeddu rhan o frenhiniaeth ei dad, a chiliodd i Fodmin yng Nghernyw. Dywed 'Buchedd,' Gotha iddo gael ei ddewis i fod yn etifedd yr holl frenhiniaeth, ac iddo orchfygu goresgyniad y gelyn cyn cofleidio'r bywyd asgetig. Dywedir i Bedrog ymweld ag Iwerddon cyn cartrefu yng Nghernyw. Ef yw un o brif saint Gwlad yr Haf, sir Ddyfnaint, a Chernyw, a choleddir ei goffa yn gyffredinol hefyd yn Llydaw. Yng Nghymru, Pedrog yw nawddsant Llanbedrog yn Sir Gaernarfon, St. Petrox yn Sir Benfro, a'r Ferwig yn Sir Aberteifi. Dethlir ei ŵyl ar 4 Mehefin.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.