PENRY, JOHN (1854 - 1883), cenhadwr dan Gymdeithas Genhadol Llundain

Enw: John Penry
Dyddiad geni: 1854
Dyddiad marw: 1883
Rhiant: Margaret Penry
Rhiant: John Penry
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cenhadwr dan Gymdeithas Genhadol Llundain
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Evan Lewis Evans

Ganwyd 7 Ebrill 1854, mab John a Margaret Penry, Tir-mawr, Llandeilo, Caerfyrddin. Daeth yn aelod o'r eglwys Annibynnol yn y Tabernacl, Llandeilo, ac yn ddiweddarach yn Providence, Llangadog. Aeth oddi yno am ysbaid i Loegr, gan ddilyn ei grefft fel prentis dilledydd, ond dychwelodd yno i'r ysgol baratoi. Wedi cwrs yng Ngholeg Lancashire, Manceinion, apwyntiwyd ef gan y gymdeithas hon i faes canolbarth Affrica. Ordeiniwyd ef yn Llandeilo ar 11 Ebrill 1882, a chyrhaeddodd Zanzibar a mynd ymlaen i Urambo. Bu'n rhaid iddo droi'n ôl oherwydd afiechyd, a bu farw yn Kisowki ar 21 Ebrill 1883, ar ei ffordd i'r arfordir.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.