PETTINGALL, JOHN (1708 - 1781), hynafiaethydd

Enw: John Pettingall
Dyddiad geni: 1708
Dyddiad marw: 1781
Rhiant: Francis Pettingale
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant
Awdur: Walter Thomas Morgan

Ganwyd 1708, mab Francis Pettingall, ficer Casnewydd-ar-Wysg. Ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 15 Mawrth 1725, a graddiodd yn B.A. yn 1728; cafodd y radd o M.A. yng Nghaergrawnt yn 1740, a D.D. yn ddiweddarach. Bu am rai blynyddoedd yn bregethwr yng nghapel Duke Street, Westminster. Penodwyd ef, 3 Mehefin 1757, yn brebendari yn eglwys gadeiriol S. Paul, Llundain, a gwnaed ef, 28 Gorffennaf 1758, yn brebendari yn Lincoln. Etholwyd ef yn F.S.A. yn 1752, a darllenodd dri phapur o flaen y gymdeithas. Cyhoeddodd A Dissertation on the Origin of the Equestrian Figure of George and of the Garter, 1753; The Latin Inscription on the Copper Table discovered in the year 1732, near Heraclea, 1760; A Dissertation upon the Tascia or Legend of the British Coins of Cunobelin and Others, 1763; a An Enquiry into the use and Practice of Juries among the Greeks and Romans, 1769. Cyfieithodd hefyd Discours Historique et Critique des Principaux Auteurs qui ont écrit pour ou contre le Christianisme gan A. C. F. Houtteville, gyda rhagair a nodiadau, 1739. Bu farw tua diwedd 1781.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.