Ganwyd tua Meidrym mae'n debyg, ac ymunodd (1775) ag eglwys newydd y Bedyddwyr yn Salem, Meidrym. O 1776 hyd 1780 bu yn academi'r Bedyddwyr ym Mryste, ac o 1780 hyd 1787 yn pregethu heb ofalaeth; yn 1787 urddwyd ef yn weinidog Salem. Nid oedd yn uniongred, ac esgymunwyd ef (ymhlith eraill) gan gymanfa'r Bedyddwyr yn 1799. Yr oedd Salem mor rhanedig nes bu'n rhaid i'r ddwy garfan, y Calfiniaid a'r Arminiaid, ddefnyddio'r capel bob yn ail hyd 1811, pan brynwyd hawliau'r Arminiaid arno. Gellid meddwl mai yn Sain Clêr yr oedd Phillips ei hunan yn byw, ac o leiaf mor fore â 1807 yr oedd yn cynnal moddion yn ei dŷ. Yr oedd yn ŵr egnïol a huawdl, a bellach yn Undodwr cydnabyddedig; ef fel rheol a fyddai'n trefnu teithiau cenhadon Undodaidd o Loegr i orllewin Cymru, e.e. yn 1810 a 1816. Tua diwedd 1827 clywir am godi capel Undodaidd ('Capel y Graig') yn Sain Clêr. Pan ymwelodd cennad y Bedyddwyr Cyffredinol â'r lle yn 1834, cafodd ' ein patriarch ' yn orweiddiog. Bu Phillips farw yng Nghaerfyrddin yn 1839. Edwinodd ei eglwys yn y 19eg ganrif; gwerthwyd y capel yn 1901; ac yn ddiweddarach tynnwyd ef i lawr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.