PHILLIPS, DANIEL (1826 - 1905), gweinidog gyda'r Annibynwyr, a darlithydd

Enw: Daniel Phillips
Dyddiad geni: 1826
Dyddiad marw: 1905
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr, a darlithydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: David Jenkins

Ganwyd yn 1826 yn Abertawe. Collodd ei rieni yn fore. Aeth i weithio i Glyn Ebwy, ac yn 1848 gyda thua 50 o Gymry eraill ymfudodd ar y ' Georgia ' i U.D.A., gan gyrraedd Efrog Newydd ym mis Mai a Pittsburg ym mis Mehefin. Bu'n gweithio yn Pittsburg am beth amser, gan bregethu a'i baratoi ei hun at fyned i goleg. Yn 1856 graddiodd yng Ngholeg Amherst. Pregethodd yn gyson gyda'r Annibynwyr o 1859 i 1894; yn Huntington, Mass., y bu'n gweinidogaethu olaf. Yr oedd yn bregethwr grymus ac yn ddarlithydd poblogaidd iawn ar destunau yn ymwneud â Chymru, hanes Cymru, ei harferion, ac, yn arbennig, lle'r Cymry yn natblygiad U.D.A. Cyhoeddwyd rhai o'r darlithiau hyn o dro i dro yn The Cambrian. Treuliodd ei flynyddoedd olaf yn adolygu ei ddarlithiau, ac yn sgrifennu i gyfnodolion Cymreig a Chymreig-Americanaidd. Bu farw yn 1905.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.