mab Edward Phillips, Llanfaredd ym Maesyfed; ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 8 Tachwedd 1734, 'yn 18 oed'; B.A. 1738. Bu'n rheithor Maesmynys, ger Llanfair-ym-muellt, 1740-76. Er iddo, yn ôl pob golwg, wrthwynebu Methodistiaeth ar y cyntaf, gwahoddodd John Wesley i sir Frycheiniog yn 1743, ac o hynny allan cefnogodd Fethodistiaeth, ' Wesleaidd ' a ' Chalfinaidd.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.