Ganwyd yn Tredegar, 19 Rhagfyr 1842, mab Thomas Phillips, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Cafodd ei fedyddio a'i dderbyn yn aelod o eglwys y Bedyddwyr yn y Cwmbach, Aberdâr; yn ddyn ieuanc ymunodd ag eglwys y Bedyddwyr yn y Tabernacl, Caerdydd, pan oedd yn gweithio fel clerc yn swyddfa clerc y dref, Caerdydd. Aeth i Goleg y Bedyddwyr, Hwlffordd, a bu'n gweinidogaethu yn Llanilltyd Fawr, Abertawe, a Bryste cyn ymfudo i U.D.A. Yno bu'n weinidog ar eglwysi yn Philadelphia, Baltimore, a Chicago. Fel y rhan fwyaf o ymfudwyr o Gymru ymlynodd wrth blaid y Gweriniaethwyr a bu'n weithgar iawn dros William McKinley pan oedd hwnnw yn ceisio cael ei ddewis yn arlywydd yn 1896. Oblegid hyn enwodd McKinley ef yn gonsul yng Nghaerdydd lle y dechreuodd yn ei swydd newydd ar 31 Awst 1897. Cymerth ddiddordeb ym mywyd crefyddol y cylch ac yng Ngholeg y Bedyddwyr, Caerdydd. Cyhoeddodd gyfrol o bregethau a gweithiau eraill nad oes iddynt werth parhaol. Bu farw yng Nghaerdydd 3 Ionawr 1905.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.