PIERCE, THOMAS MORDAF (1867? - 1919), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur

Enw: Thomas Mordaf Pierce
Dyddiad geni: 1867?
Dyddiad marw: 1919
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 23 Rhagfyr 1867 (?), yn Abererch, Sir Gaernarfon. Dechreuodd bregethu yn 1886, aeth i ysgol Clynnog yn 1887, ac i Goleg y Bala yn 1888. Bu'n gweinidogaethu yn Llanfairfechan (1891), Llanidloes (1895), a Dolgellau (1910). Priododd ddwywaith. Bu farw 13 Mai 1919 yn Nolgellau.

Cyhoeddodd Y Parchedig Humphrey Gwalchmai, y Bugail Cyntaf yng Nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd. Gyda threm ar hanes dechreuad yr Achos yn Nosbarth Llanidloes (Llanidloes, 1908; arg. arall yn 1909), a Dr. W. Owen Pughe (Caernarfon, 1914), sef traethawd a ysgrifennodd ar gyfer eisteddfod Meirion, 1913. Casglodd ynghyd ddefnyddiau ar gyfer gweithiau eraill - hanes crefyddol a threfol Llanidloes a Dolgellau, hanes Millsiaid Llanidloes; gweler e.e. NLW MS 6173D , NLW MS 6175C , NLW MS 6176D , NLW MS 6177D, 6178C, 6179B , NLW MS 6183C , NLW MS 6184D , NLW MS 6185D , NLW MS 6186E , NLW MS 6187D , NLW MS 6188B , NLW MS 6189C .

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.