PIERCE, WILLIAM (1853 - 1928), gweinidog Annibynnol, a hanesydd

Enw: William Pierce
Dyddiad geni: 1853
Dyddiad marw: 1928
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol, a hanesydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant
Awdur: Robert Tudur Jones

Ganed yn Lerpwl, 21 Ebrill 1853. Aeth i'r weinidogaeth tan ddylanwad Herber Evans, Caernarfon. O 1875 hyd 1879 yr oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Aberhonddu. Yna bu'n weinidog yn Bideford, Dyfnaint (1879-82); Leytonstone (1882-7); Soho Hill, Birmingham (1887-9); New Court, Tollington Park (1889-96); West Hampstead (1896-1904); Doddridge, Northampton (1905-10); Higham's Park (1910-26). Wedyn bu'n llyfrgellydd y Congregational Library.

Cyhoeddodd weithiau safonol ar Ymneilltuaeth oes Elisabeth, ac fe'i hanrhydeddwyd (1924) â M.A. gan Brifysgol Cymru. Ar wahân i weithiau amrywiol, dyma ei gyhoeddiadau: An Historical Introduction to the Marprelate Tracts (London, 1908); The Marprelate Tracts (London, 1911); John Penry: his Life, Times, and Writings (London, 1923). Bu farw 11 Rhagfyr 1928, a'i gladdu ym mynwent New Southgate.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.