POOLE, EDWIN (1851 - 1895), newyddiadurwr, argraffydd, a hanesydd lleol

Enw: Edwin Poole
Dyddiad geni: 1851
Dyddiad marw: 1895
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: newyddiadurwr, argraffydd, a hanesydd lleol
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd Edwin Poole yng Nghroesoswallt 28 Chwefror 1851. Aeth i Aberhonddu tua 1866 i weithio ar y Brecon County Times; ond yn 1889 cychwynnodd y Brecon and Radnor Express, a bu'n olygydd iddo. Ymddiddorai'n fawr yn hanes Aberhonddu a Brycheiniog, a chyhoeddodd nifer o lyfrau; y mwyaf hysbys yw History of the Breconshire Charities, 1880; Military Annals of the County of Brecknock, 1885; Illustrated History and Biography of Brecknockshire , 1886; a John Penry, 1893. Dug allan hefyd gylchgrawn hynafiaethol, byrhoedlog ond defnyddiol iawn, Old Brecknock Chips , 1886-8. Bu farw 15 Ebrill 1895.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.