Ganwyd 1561, mab John ap Hywel, Llansawel, Sir Gaerfyrddin. Ymaelododd yng Ngholeg Iesu yn 1581; graddiodd yn M.A. 1589, ac yn D.C.L. 1599. Etholwyd ef yn gymrawd o'r coleg yn 1589, a dyrchafwyd ef yn brifathro yn 1613. Cyhoeddodd ddau lyfr yn delio ag adrannau o waith Aristotlys (1594 a 1598). Yr oedd Powell yn ŵr o ddylanwad mawr yn ystod ei flynyddoedd fel cymrawd o'r Coleg, a bu'n weithgar iawn yn ceisio cael trefn ar fywyd ac eiddo'r coleg yn ei gyfnod cynnar. Fel prifathro, ymroes i godi adeiladau newydd, a thrwy ei ymdrechion ef yr adeiladwyd y capel a'r ffreutur. Bu farw 15 Mehefin 1620, a chladdwyd ef yn eglwys Mihangel, Rhydychen, gerllaw Coleg Iesu.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.