Ganwyd yn Llanegryn. Y mae'n debyg mai ef yw y Richard Powell, mab Hugh Powell, gwehydd, a Jemimah Parry, y croniclir ei fedydd yng nghofrestri'r plwyf.
Yn 1793, yn eisteddfod Cymdeithas y Gwyneddigion a gynhaliwyd yn y Bala, ef, o 11 o gystadleuwyr, enillodd y fedal am ei 'Awdyl ar Dymhorau y Vlwyzyn .' Ceir ei 'Carol Plygain Ddydd Natolic' yn y gyfrol Difrifol Ystyriaeth a gyhoeddwyd gan John Daniel (Caerfyrddin, 1789). Yr oedd yn adnabyddus hefyd fel gramadegydd.
Bu farw ym mis Hydref 1795 wrth groesi'r mynyddoedd o Ffestiniog i Ysbyty Ifan ar adeg o eira.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.