Ganwyd fis Awst 1830 yn Tai Duon, Dolbenmaen, Sir Gaernarfon, yn fab i Ellis a Chatrin Powell. Bu'n gweithio mewn chwareli llechi yn Llanberis hyd 17 Ebrill 1852, pryd y symudodd i Lundain yn dorrwr cerrig beddau, etc. Ysgrifennai bob ffurf ar farddoniaeth, a chyhoeddwyd ei waith yn Y Faner, Yr Herald, a chylchgronau eraill. Yr oedd yn gystadlydd brwd mewn eisteddfodau, ac enillodd fedalau arian yn eisteddfod genedlaethol Llandudno (1864), ac yn Abertawe (1863) a Llangefni. Ef oedd y pumed yng nghystadleuaeth y gadair ym Merthyr Tydfil (1888). Priododd (1), Mary Theodore, Llanfair Caereinion, a ganed iddynt bump o blant; a (2), 1895, - Jones o Westminster. Bu farw 16 Gorffennaf 1902, a chladdwyd yn Lundain.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.