PRICE, BENJAMIN ('Cymro Bach '; 1792 - 1854), gweinidog gyda'r Bedyddwyr a llenor

Enw: Benjamin Price
Ffugenw: Cymro Bach
Dyddiad geni: 1792
Dyddiad marw: 1854
Rhiant: Hannah Price
Rhiant: Joseph Price
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Benjamin George Owens

Ganwyd yn Gofeilon, Llanwenarth, mab Joseph Price (bu farw 1834), gweinidog Blaenau Gwent, a'i wraig Hannah. Symudodd y teulu i Flaenafon, ac yno y bedyddiwyd ef yn 1817 a'i godi i bregethu ym Medi 1820. Derbyniwyd ef yn fyfyriwr i'r Fenni yn 1822, a'i ordeinio yn Kensington, Aberhonddu, 24 Tachwedd 1825. Symudodd yn 1828 i'r Drenewydd a Chaersws, yn gydweinidog i ddechrau â John Jones ac o 1833 hyd 1840 â George Thomas (a fu wedyn yn athro ym Mhontypŵl), oddi yno yn 1840 i Dudley, yn gydweinidog â William Rogers, brodor o Flaenau Gwent, a thrachefn yn 1842 i Dredegar. Ymddeolodd yn 1844 i fod yn oruchwyliwr teithiol tros Gymru i Gymdeithas Genhadol y Bedyddwyr, ac yn y swydd honno y cyflawnodd brif waith ei fywyd. Bu'n ohebydd mynych i gylchgronau'r enwad a chyhoeddwyd nifer o'i weithiau, gan gynnwys detholiad maith o'i ysgrifau dan y teitl Y Cymro Bach, 1855, a Lectures to the Working Classes, 1851. Bu'n foddion hefyd yn 1848 i sefydlu yn ei enwad Gymdeithas yr Hen Weinidogion, ond bu farw honno o ddiffyg cefnogaeth. Ymddeolodd yn 1853, a bu farw ym Mryste 25 Mehefin 1854, a'i gladdu yn Llanwenarth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.