yn byw yn y Fenni yn yr High Street, un o swyddogion pwysicaf y gorfforaeth, ac (ym marn Syr Joseph Bradney) yn un o deulu Prysiaid Llanffwyst. Yr oedd yn dal breichiau John Tombes yn nadl fedydd y Fenni, 1653; wedi'r Adferiad, adroddir amdano'n pregethu mewn cêl-gyfarfodydd, 1668-9, ac yn 1672 cafodd drwydded i bregethu yn ei dŷ ei hun o dan ddeclarasiwn Siarl II. Credai yn niffuantrwydd polisi Iago II yn 1687 pan gyhoeddodd yntau ei ddeclarasiwn dros ryddid crefyddol; a phan gyrhaeddodd y brenin i Gaerloyw, ar daith i'r gororau, pwy a ddaeth i'w gyfarfod gydag anerchiad o longyfarch iddo ond y Dr. Price. Ar ran y ' Congregational Persuasion ' y siaradai'r apothecari, ond rhaid yw cofio mai ' Congregational ' sydd ar gyfer Bedyddwyr rhydd-gymunol yn aml iawn yng nghofnodion y cyfnod. Ni wnaeth y cam gwag hwn fawr niwed i'r meddyg unplyg a boneddigaidd; yn 1689 yr oedd yn bresennol yng nghymanfa fawr y Bedyddwyr yn Llundain, ac yn gohebu â phrif Fedyddwyr y wlad; ef a roddodd dir i godi capel Llanwenarth arno, capel cyntaf y Bedyddwyr yng Nghymru, 1695; drwyddo ef y rhennid llawer o roddion, oddi wrth Fedyddwyr ac Annibynwyr Llundain, ymhlith gweinidogion anghenus yng Nghymru. Bu farw yn 1697, a chladdwyd ef yn eglwys y plwyf, yn y gangell o flaen bwrdd y Cymun.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.