Ganwyd yn 1804 ym mhlwyf Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon. Ordeiniwyd ef 30 Hydref 1829 yn weinidog eglwys Capel Helyg, Llangybi. Ymhen dwy flynedd aeth yn weinidog ym Mhenybont Fawr, gerllaw Croesoswallt; yno daeth yn adnabyddus fel darlithiwr ar ddirwest hefyd. Ar ôl bod ym Mhenybont Fawr am naw mlynedd symudodd (1843) i Ddinbych. Yno ysgrifennodd lyfr yn dadlau na ddylai Anghydffurfwyr dalu treth yr Eglwys. Yn 1857 ymfudodd i U.D.A., gan weinidogaethu yn olynol yn Utica, Newark (Ohio), a Williamsburg (Iowa). Ysgrifennai ddarnau barddonol ac erthyglau i'r Cenhadwr Americanaidd o dan yr enw ' Dewi Dinorwig.' Ymwelodd â Chymru yn 1868. Cyhoeddodd (1) Y Catecism Cyntaf (Croesoswallt, 1840); (2) Darlith ar Ryddid Crefyddol (Llanrwst, 1844); (3) Dyddiau y Dreth (Dinbych, 1855); (4) Yr Adeiladydd Teuluaidd (Dinbych, 1857). Bu farw yn 1874 a'i gladdu yn Forest Home, U.D.A.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.