PRICE, JOHN (1735 - 1813), llyfrgellydd Bodley, Rhydychen

Enw: John Price
Dyddiad geni: 1735
Dyddiad marw: 1813
Rhiant: Anne Price
Rhiant: Robert Price
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llyfrgellydd Bodley, Rhydychen
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: John James Jones

Ganwyd 1 Mawrth 1735, mab y Parch. Robert Price, ficer Llandegla o 1731 hyd 1737, a symudodd i fywoliaeth Llangollen, lle y bu hyd ei farwolaeth yn 1771 - claddwyd 9 Medi.

Addysgwyd John Price yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, lle yr ymaelododd 26 Mawrth 1754. Graddiodd B.A. 1757, M.A. 1760, a B.D. 1768. Penodwyd ef yn borthor ('janitor') yn Llyfrgell Bodley yn 1757, yn is-lyfrgellydd yn 1765, yn llyfrgellydd gweithredol, 1762, a phrif lyfrgellydd yn 1768. Daliodd y swydd hyd ei farw. Yr oedd yn gurad Northleigh, sir Rhydychen, o 1766 i 1773, a churad Wilcote yn yr un sir yn 1775. Yn 1782 derbyniodd fywoliaeth Wollaston ac Alvington, sir Gaerloyw, ac yn 1798 eiddo Llangatock, sir Frycheiniog. Etholwyd ef yn F.S.A. yn 1797; tua'r un amser ymfudodd i Goleg y Drindod, a gwnaeth lawer o gymwynas i'r coleg hwn. Trigai yn S. Giles, bu farw 12 Awst 1813, a chladdwyd ef yn Wilcote ar 20 Awst. Cyhoeddodd A Short account of Holyhead in the Isle of Anglesey, 1783, sef rhif 10 o'r Bibliotheca Topographica Britannica. Hefyd, cyfrannodd ysgrif i Archaeologia (cyfrol 8) o dan y teitl ' An account of a bronze image of Roman workmanship. ' Cynhwysir amryw o'i lythyrau yn Nichols, Illustrations of Literary History, ynghyd â'r unig ddarlun ohono sydd ar gael.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.