Ganwyd yn Amlwch yn 1821. Wedi gweithio yng ngwaith copr Mynydd Parys, bod mewn amryw ysgolion, dechreuodd bregethu yn 1844, ac aeth i Goleg y Bala yn 1845. Bwriodd chwe blynedd yn cenhadu ac yn cadw ysgol ym Mancot, Sir y Fflint; ond dychwelodd i Amlwch yn 1853 - cadwai ei wraig siop yno hyd 1863. Ordeiniwyd ef yn 1857, ac yn 1864 ymgymerth â bugeilio eglwys Porth Amlwch; ymddeolodd o'i ofalaeth yn 1884. Disgrifir ef fel ' pregethwr poblogaidd anghyffredin' ym mhob rhan o Gymru. Sgrifennai lawer i'r cyfnodolion; ond yr unig waith o bwys a adawodd yw Methodistiaeth Môn, 1888. Yr oedd yn llywydd cymdeithasfa'r Gogledd ar adeg ei farwolaeth, 18 Hydref 1889. Y mae cofiant iddo gan John Williams, 1898.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.