Ganwyd yn Penrhiw-llwyn-fynwent, Llangamarch, sir Frycheiniog, 27 Chwefror 1807; hanoedd o deulu parchus ac amlwg gyda chrefydd. Symudodd ei deulu i Lanwrtyd pan oedd yn ieuanc. Ni chafodd ond tri diwrnod o ysgol. Gwehydd ydoedd wrth ei alwedigaeth. Rhoes ei fryd ar ddarllen a myfyrio yn ei oriau hamdden, a daeth yn batrwm o ddyn hunanddiwylliedig. Meddai alluoedd naturiol cryfion, eithr cyfrifid ef yn hynod am ei odrwydd yn caru'r encilion ac osgoi cyhoeddusrwydd. Dechreuodd bregethu yn Llanwrtyd, ac aeth y gair ar led am ei ddawn fel gweddïwr a phregethwr. Gwrthododd alwad o Ferthyr Tydfil am na allai ddygymod â bywyd y gweithfeydd. Ordeiniwyd ef yng Nghwmllynfell, 19 a 20 Awst 1835. Canolodd ei weinidogaeth o'r dechrau ar sefydlu cyrddau gweddïo ac ysgolion Sul ar hyd y tai. Cymerth ofal (yn rhannol) o eglwys Baran a sefydlu canghennau yn Rhydyfno, Gwter Fawr (Brynaman), a Chwmtwrch Uchaf. Llefarai'n llifeiriol a'i arddull ar ei ddelw ei hun. Gwrthodai fynd i gymanfaoedd, gan ddewis yn hytrach gwmni natur a'i lyfrau. Ystyrid ef yn awdurdod ar faterion meddygol, a bu ei lyfr, Llysieu-lyfr Teuluaidd 1840, yn safonol am dymor hir. Cyfansoddodd lawer o ddarnau barddonol o natur ddiwygiadol; disgynnai ysbryd yr emynydd arno yn aml. Bu farw 6 Gorffennaf 1869.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.