Fe wnaethoch chi chwilio am *

Canlyniadau

PRICE, THOMAS (1857 - 1925), cerddor

Enw: Thomas Price
Dyddiad geni: 1857
Dyddiad marw: 1925
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Addysg; Eisteddfod; Cerddoriaeth
Awdur: Gwilym Prichard Ambrose

Ganwyd yn 1857 yn Rhymni, sir Fynwy. Bu'n gweithio fel glowr o'r deg i'r ugain oed. Dysgodd elfennau cyfansoddi heb gymorth athro trwy astudio gwerslyfrau Albrechtsberger a Cherubini, a gwrando ar weithiau rhai o'r meistri; clywai y gweithiau hyn wrth ei fod yn aelod o gorau y Rhymni a phan fynychai y Three Choirs Festival. Wedi iddo dreulio rhai blynyddoedd yng ngwasanaeth rheilffordd a chwe blynedd fel trafaeliwr masnach, penderfynodd Price wneuthur cerddoriaeth yn yrfa iddo'i hun. Yr oedd ei gyfansoddiadau wedi ennill iddo wobrwyon eisoes mewn eisteddfodau cenedlaethol (1887-91). Daeth ei anthemau, ei emyn-donau, a'i ranganau yn boblogaidd iawn yng Nghymru, yn enwedig y rheini a gyfansoddodd ar gyfer plant. Cyhoeddodd gantata i blant ('The Little Wanderers') ac un fwy uchelgeisiol ar gyfer oedolion ('The Prodigal Son'), 1891. Yr oedd yn boblogaidd fel beirniad ac fel arweinydd cymanfaoedd canu. Yn 1896 dewiswyd ef yn athro teithiol i ddysgu cerddoriaeth yn ysgolion canolradd Morgannwg. Bu farw 8 Gorffennaf 1925.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.