PRICE, WILLIAM (1800 - 1893), 'dyn od' a hyrwyddwr corff-losgiad

Enw: William Price
Dyddiad geni: 1800
Dyddiad marw: 1893
Partner: Gwenllian Llewellyn
Plentyn: Penelopen Elizabeth Price
Plentyn: Gwenhiolen Price
Plentyn: Iesu Grist Price
Plentyn: Iesu Grist Price
Rhiant: Mary Price
Rhiant: William Price
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: 'dyn od' a hyrwyddwr corff-losgiad
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Meddygaeth; Gwrthryfelwyr
Awdur: Islwyn ap Nicholas

Ganwyd 4 Mawrth 1800 yn Ty'nycoedcae, plwyf Rhydri, sir Fynwy, trydydd mab y Parch. William Price a Mary ei wraig. Bu mewn ysgol ym Machen ac wedyn yn brentis i Evan Edwards, Caerffili, ac yn ddisgybl yn Bart's a'r London Hospital, gan ennill cymwysterau L.S.A. (ym Medi 1821) ac M.R.C.S. (yn Hydref 1821). Bu'n dilyn yr alwedigaeth honno yn Nantgarw, Trefforest, a Pontypridd, gan ddyfod yn bur enwog fel meddyg ac fel llawfeddyg. Ystyriai ei hun yn archdderwydd ac arferai ddefodau hynafol ar y Garreg Siglo ar gomin Pontypridd. Gwisgai yn od - hugan wen, a than honno wasgod ysgarlad a llodrau gwyrdd; am ei ben gwisgai glamp o groen llwynog. Dywedir ei fod yn credu mewn 'cariad rhydd' ac yn gweithredu yn ôl y gred honno; yr oedd yn credu y dylid llosgi ac nid claddu'r meirw; bwytâi lysiau - nid cig; yr oedd yn gwbl wrthwynebus i fuchfrechiad a bywdrychiad; yr oedd yn diystyru crefydd uniongred; dirmygai gyfraith y wlad a'r rhai a weinyddai'r gyfraith honno. Yr oedd hefyd yn un o arweinwyr y Siartwyr, ond ni chymerodd ran yng nghyrch y Siartwyr ar Gasnewydd. Wedi i Siartwyr fyned yn llu i Gasnewydd-ar-Wysg yn 1839 ffoes Price i Ffrainc wedi ei wisgo fel benyw, ac ymwelodd â Boulogne yn 1861.

Bu'n cymryd rhan mewn llawer o ymgyfreithio; yn y llysoedd arferai gyfeirio at ei ferch, a alwai yn 'Iarlles Morgannwg,' fel 'my learned counsel.' Cyhuddwyd ef ym mrawdlys Morgannwg, 1884, gerbron y barnwr Stephen, ar gyhuddiad deublyg: (i) o geisio llosgi corff 'Iesu Grist' yn lle'i gladdu, (ii) o geisio llosgi'r corff gyda'r bwriad o rwystro cynnal cwest arno. Canlyniad y prawf nodedig hwn oedd dyfarnu bod corff-losgiad yn gyfreithiol.

Pan oedd yn 83 mlwydd oed cymerth ferch o'r enw Gwenllian Llewelyn yn 'gydymaith' iddo'i hun - daeth hi yn fam i dri o'i blant 'Iesu Grist,' 'Iesu Grist yr Ail' a Penelopen. Bu farw 23 Ionawr 1893 yn Llantrisant a llosgwyd ei gorff, ond nid yn hollol yn ôl y cyfarwyddiadau manwl a phendant a adawsai.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.