PROBERT, WILLIAM (1790 - 1870), gweinidog gyda'r Undodiaid

Enw: William Probert
Dyddiad geni: 1790
Dyddiad marw: 1870
Priod: Margaret Probert (née Carr)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Undodiaid
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Thomas Isfryn Jones

Ganwyd yn Painscastle, sir Faesyfed, 11 Awst 1790, yn fab i dyddynnwr. Yn gynnar yn ei oes bu'n bregethwr lleol gyda'r Wesleaid yn Bolton, Leeds, Lerpwl, a sir Stafford, ond yn 1815 troes at yr Undodiaid a'i sefydlu yn 1821 yn weinidog yn Walmsley ger Bolton, lle y treuliodd y 48 mlynedd nesaf o'i oes. Yr oedd yn hynafiaethydd, yn ysgolhaig mewn pynciau dwyreiniol, ac yn awdurdod ar gyfreithiau ac arferion Cymreig. Yr oedd hefyd yn feistr ar yr iaith Gymraeg, a derbyniodd amryw o fedalau oddi wrth gymdeithasau diwylliadol am ei adroddiadau ar gestyll Cymru ac am gyfieithiadau o Gymraeg i Saesneg. Cyhoeddodd amryw o lyfrau a ddengys ei wybodaeth eang, e.e. Calvinism and Arminianism, 1815; The Gododin being translations from the Welsh, 1820; Ancient Laws of Cambria, 1823; Elements of Chaldee and Hebrew Grammar, 1832; Hebrew and English Concordance, 1838; Hebrew and English Lexicon Grammar, 1850; Laws of Hebrew Poetry, 1860. Ysgrifennodd hefyd 'History of Walmsley Chapel,' a argraffwyd yn y Christian Reformer, 1834. Yn 1814 priododd Margaret Carr, Broxton, sir Gaerlleon, a ganwyd iddynt chwech o blant. Bu farw yn Dimple, Turton, 1 Ebrill 1870.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.