PRYCE, THOMAS (1833 - 1904), hynafiaethydd

Enw: Thomas Pryce
Dyddiad geni: 1833
Dyddiad marw: 1904
Rhiant: David Pryce
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant
Awdur: Walter Thomas Morgan

Ganwyd 5 Medi 1833, mab David Pryce, Trederwen Hall, Llandrinio, Sir Drefaldwyn. Addysgwyd ef yn y Liverpool College. Ar ôl gadael yr ysgol ymfudodd i Java, lle priododd yn 1863 â merch i Jacobus G. T. a Aldous van Motman o Dramaga. Ar ôl treulio 28 mlynedd yn Java aeth am bum mlynedd i'r Hâg. Oddi yno dychwelodd i Gymru ac aeth i fyw i Bentre Heylin, Llandysilio, Sir Drefaldwyn. Cymerodd ran amlwg ym mywyd cyhoeddus y sir. Bu'n ustus heddwch, yn aelod o'r cyngor sir, a chadeirydd y cyngor plwyf. Yr oedd yn hynafiaethydd brwd ac yn aelod o gyngor y Powysland Club. Ysgrifennodd hanes plwyf Llandysilio ac fe'i cyhoeddwyd yn Collections, historical & archaeological relating to Montgomeryshire, xxxi a xxxii . Bu farw 23 Mehefin 1904, a chladdwyd ef ym mynwent Llandysilio.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.