Ganwyd 25 Medi 1857, mab Absalom ac Ann Prys, y Ffactri, Penllwyn, ger Aberystwyth. Dechreuodd ar gwrs ei addysg yn yr ysgol Genedlaethol ym Mhenllwyn, a gedwid gan ei ewythr, a bu wedi hynny am gyfnod yn ddisgybl-athro yn yr Ysgol Frutanaidd. Yn 1876 aeth i Goleg Normal Bangor, gorffennodd ei gwrs yn y dosbarth cyntaf. Yna, hyd 1883, bu'n brifathro'r Ysgol Fwrdd yn Goginan. Ym Mangor ymddiddorai mewn cerddoriaeth a mathemateg, ond wedi gadael y coleg daeth dan ddylanwad Carlyle a Channing a dechreuodd ymddiddori mewn diwinyddiaeth. Aeth i Gaergrawnt yn 1883, ymunodd â Choleg Peterhouse, ond ymhen dwy flynedd, wedi ennill ysgoloriaeth o £100, symudodd i Goleg y Drindod. Graddiodd yn 1886 yn y dosbarth cyntaf yn y Mental and Moral Sciences Tripos. Arhosodd flwyddyn arall yng Nghaergrawnt, a bu am flwyddyn yn yr Almaen, yn bennaf yn Leipzig. Yn 1887 penodwyd ef yn ddarlithydd yn Owen's College, Manceinion, i gynorthwyo'r athro Adamson. Dechreuodd bregethu yn 1883 a daeth yn fuan iawn i amlygrwydd. Yr oedd ei bregethau bob amser yn ffrwyth meddwl treiddgar a llwyr a phrofiad eang o fywyd ac o'r efengyl, a phregethai gydag angerdd anghyffredin. Penodwyd ef yn athro yng Ngholeg Trefeca yn 1890, a'r flwyddyn ddilynol ordeiniwyd ef a phenodwyd ef yn brifathro. Symudwyd y coleg i Aberystwyth yn 1906, unwyd ef â Choleg y Bala yn 1922, a bu Prys yn brifathro hyd ei ymddiswyddiad yn 1927. Ei faes fel athro oedd diwinyddiaeth ac athroniaeth crefydd a moeseg. Gŵr dwys distaw ydoedd, ond yn y dosbarth byddai'r gwirionedd yn ei danio a thrwy angerdd ei ysbryd âi'r gwirionedd yn eirias. Priododd Elizabeth, merch hynaf John Parry, Talybryn, Bwlch, sir Frycheiniog, 2 Awst 1893; ganed iddynt ddwy ferch. Llanwodd le amlwg iawn yn ei gyfundeb. Traddododd y ' Ddarlith Davies ' yng Nghaerdydd yn 1904 ar ' The Doctrine of Man.' Etholwyd ef yn llywydd y gymanfa gyffredinol yn 1910 ac yn llywydd cymdeithasfa'r De yn 1917. Derbyniodd radd D.D. ('er anrhydedd') Prifysgol Cymru yn 1922. Etholwyd ef yn llywydd y gymanfa gyffredinol (am yr ail waith) am flwyddyn dathlu dau can mlwyddiant y cyfundeb (1935), ond bu farw 12 Rhagfyr 1934.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.