PUGH, JOHN ('Ieuan Awst '; 1783 - 1839) cyfreithiwr a bardd

Enw: John Pugh
Ffugenw: Ieuan Awst
Dyddiad geni: 1783
Dyddiad marw: 1839
Priod: Jane Pugh (née Oliver)
Rhiant: Catherine Pugh
Rhiant: David Pugh
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfreithiwr a bardd
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Barddoniaeth
Awdur: Thomas Isfryn Jones

Ganwyd yn 1783 ym Melinfraenen, plwyf Celynnin, Meirionnydd, yn bumed mab David a Catherine Pugh. Ni chafodd ond naw mis o ysgol ond erbyn diwedd ei oes ystyrid ef yn ei ardal yn ŵr o wybodaeth eang. Symudodd i Ddolgellau yn 13 oed, a'i gyflogi yno'n glerc mewn swyddfa cyfreithiwr. Yn ddiweddarach fe'i prentisiwyd yn argraffydd gyda Thomas Williams, Dolgellau, ond rhoes hynny heibio gan ymrwymo i'r gyfraith, ac fel cyfreithiwr parchus iawn yn Nolgellau y treuliodd weddill ei oes. Er yn gyfreithiwr cadwodd ei ddiddordeb mewn argraffu, ac yn 1815 daeth yn feistr-argraffwr, ac ymddengys ei enw (John Pugh, Heol Finsbury) ar argraffiad 1833-40 o'r Dysgedydd. Cyhoeddodd gryn dipyn o farddoniaeth a rhyddiaith mewn cylchgronau fel Y Dysgedydd a Seren Gomer, fel rheol o dan y ffugenw ' Ieuan Awst.' Yn 1823 gwnaed ef yn aelod o Gymdeithas Cymreigyddion Dolgellau a ffurfiesid ddwy flynedd ynghynt. Priododd, 11 Ionawr 1815, â Jane Oliver, merch Robert Oliver o Ddolgellau, a ganed iddynt wyth o blant. Bu farw 16 Chwefror 1839.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.