PUGH, JOHN (1846 - 1907), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a sylfaenydd ac arolygydd cyntaf y Symudiad Ymosodol

Enw: John Pugh
Dyddiad geni: 1846
Dyddiad marw: 1907
Priod: Marie Pugh (née Watkins)
Rhiant: Ann Pugh
Rhiant: John Pugh
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a sylfaenydd ac arolygydd cyntaf y Symudiad Ymosodol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Ieuan Phillips

Ganwyd yn New Mills, Sir Drefaldwyn, 29 Ionawr 1846, mab John Pugh, ymgymerwr, ac Ann. Symudodd y teulu i Ddinbych-y-pysgod, Sir Benfro, yn 1860. Bu Pugh yng ngholeg diwinyddol Trefeca, 1869-72, ac ordeiniwyd ef yng nghymdeithasfa Abertawe, 1872. Bu'n weinidog yn eglwysi Saesneg (1) Tredegar, 1872-81; (2) Pontypridd, 1881-9; (3) Clifton Street, Caerdydd, 1889-92. Priododd Marie Watkins, Pentre Farm, Raglan, yng nghapel Zion Street (B.), Abergavenny, 1875. Cychwynnodd waith cenhadol ymhlith y Saeson yn Splott, Caerdydd, 1891. Derbyniwyd yr ymgyrch hwn fel rhan swyddogol a pharhaol yr eglwys yng nghymanfa gyffredinol Machynlleth, 1892, a galwyd John Pugh i ofal eglwys Clifton Street (Caerdydd) i fod yr arolygydd cyntaf arno. Etholwyd ef yn llywydd y gymdeithasfa yn y Deau, 1906. Bu farw Sul y Blodau, 24 Mawrth 1907. Cychwynnwyd 48 o neuaddau yn ystod ei arolygiaeth, a chartref i ferched diymgeledd ('Kingswood Treborth Home') yng Nghaerdydd. Er rhoddi cyhoeddusrwydd i'r gwaith cyhoeddodd fisolyn, ac efe oedd y prif olygydd am flynyddoedd - The Christian Standard, 1891-3; The Forward Movement Herald, 1897; The Forward Movement Torch, 1899-1904.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.