Ganwyd yn Pennant, Aberriw, Sir Drefaldwyn, 26 Rhagfyr 1783. Yr oedd ei dad, WILLIAM PUGH (1748 - 1823), Pennant (ac, yn ddiweddarach, Caerhowel, a brynodd yn 1800), yn perthyn i un o hen deuluoedd bonheddig y sir (ac wedi ei gyfoethogi trwy ei fusnes fel cyfreithiwr), yn arloeswr sefydlu ariandai yn y Drenewydd, ac yn siryf yn 1813; yr oedd ei fam yn ferch William Lewis, y Trallwng.
Cafodd ei addysg yn ysgol Rugby (hyd 1802) Coleg y Drindod, Caergrawnt (1802-6) a Lincoln's Inn (5 Chwefror 1805). Ymsefydlodd yn ei gartref pan oedd yr ofnau y byddai i Napoleon Bonaparte a'i luoedd oresgyn Prydain wedi cyrraedd eu huchafbwynt, fe'i gwnaethpwyd yn ddirprwy-raglaw y sir (1807), a gwasnaethodd fel capten (1809) ac uch-gapten (1813) yn y milisia lleol. Er ei wneuthur yn fargyfreithiwr (11 Chwefror 1813) a bod ganddo ystafelloedd yn Lincoln's Inn (1814-7) ni bu'n gweithredu erioed fel y cyfryw. Ar 5 Mehefin 1816 priododd Beatrix Matilda Dennison, merch meddyg yn byw yn Brighton, eithr yn tarddu o Sir Drefaldwyn, a'r flwyddyn ddilynol fe'i gwnaethpwyd yn un o ustusiaid heddwch y sir. Yn fuan wedi hynny ail-adeiladodd blasty Brynllywarch, hen gartref y teulu, ac aeth i fyw ynddo. Bu'n ddiwyd ac yn hael yn ei gymorth i'r ymdrechion i wella trafnidiaeth - estyn y Montgomeryshire Canal i'r Drenewydd (1815-9), gwella ffyrdd tyrpeg y sir trwy ddefnyddio dull macadam ynglŷn â hwynt, ac agor, 1825, ffordd fwy uniongyrchol i Dde Cymru trwy'r Drenewydd a Llanfairmuellt. Yr oedd yn boblogaidd iawn fel ustus heddwch a bu'n helpu i osgoi terfysgoedd oherwydd prinder bwyd yn ystod gaeaf caled 1830. Bu'n trefnu cymorth y sir i bleidwyr y Reform Bill, eithr gwrthododd fynd yn ymgeisydd seneddol, a methodd yn ei ymdrech i orthrechu dylanwad hanner canrif (monopoli, o ran hynny) Charles W. Williams Wynn ynglŷn ag etholiadau seneddol y sir; ym marn Williams Wynn yr oedd Pugh yn perthyn i'r ' new race of Liberals and independents.'Yr oedd o blaid addysg i'r bobl, a bu'n gynrychiolydd lleol (c. 1832) y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Fuddiol. Gwnaeth bethau eraill i hyrwyddo llwyddiant y Drenewydd a'r cylch, e.e. adeiladu yno farchnad wlanen a fu'n help i ddifodi monopoli hynafol Amwythig fel canolfan gwerthu i rai a oedd am ailwerthu, dechrau (1833-5) dod â pheiriannau gwau ager i mewn i'r ffatrïoedd lleol, hyrwyddo cychwyn newyddiadur lleol, y Montgomeryshire Herald, ac ymdrechu (a llwyddo) i gael cyfrif y Drenewydd yn un o'r trefi y cynhelid y sesiynau ynddynt. Yn herwydd y gwario mawr ar ei arian, a'r modd araf yr oedd yn cael llogau arno (e.e. yn y diwydiant gwlanen, a ddioddefodd yn drwm yn nirwasgiad y cyfnod hwn), a methiant (1831) yr ariandy lleol yr oedd gan ei dad ran a chyfran ynddo, collodd Pugh y rhan fwyaf o'i gyfalaf, a bu'n rhaid iddo 'werthu allan' a mynd o'r wlad i Caen, Ffrainc, ym mis Hydref 1835. Serch hynny bu'n cyfarwyddo - ac i raddau helaeth yn talu arian - yr ymdrech i gael ffordd haearn i gario trenau'r post i Iwerddon ac oddi yno trwy Lwydlo, y Drenewydd, a Dolgellau i Bortinllaen (yn hytrach nag i Gaergybi). Bu farw 4 Mawrth 1842, a chladdwyd ef yn Caen.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.