Ganwyd 1837 yn Felin Brithdir, Penbryn, Sir Aberteifi, mab Rhys Rees. Daeth ymlaen yn dda yn yr ysgol, yn enwedig mewn mesuroniaeth. Aeth yn brentis i fasnachdy J. M. Jones, Rhydlewis, ac ymhen rhai blynyddoedd aeth i Lerpwl, ac oddi yno i Lundain. Manteisiodd ar bob cyfle i'w ddiwyllio ei hun a daeth yn feistr ar y Saesneg, gan gyfansoddi barddoniaeth a rhyddiaith yn yr iaith honno. Yn 1860 gwaelodd ei iechyd a bu raid iddo aros gartref. Enillodd lawer o wobrwyon eisteddfodol. Cipiodd y wobr yn eisteddfod Llandudno (1864) am farwnad 'Carn Ingli,' a daeth yn ail i 'Glan Cunllo' am gân ar 'Llywelyn ein Llyw Olaf' yn eisteddfod y Tŷ-gwyn-ar-Daf (1865). Bwriadai gyhoeddi cyfrol o'i farddoniaeth, ond ni bu fyw i wneuthur hynny. Bu farw 8 Gorffennaf 1866, a'i gladdu yn Llangunllo.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.