REES, DAVID (1818 - 1904), 'Dr. Rees, Bronnant,' pregethwr 'hynod' gyda'r Methodistiaid yn Sir Aberteifi

Enw: David Rees
Dyddiad geni: 1818
Dyddiad marw: 1904
Priod: Anne Rees (née Rees)
Rhiant: Mary Rees
Rhiant: Daniel Rees
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr 'hynod' gyda'r Methodistiaid
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 4 Mehefin 1818 yn Blaentrosol, Capel Drindod, plwyf Llandyfriog, Sir Aberteifi, mab Daniel Rees, crydd, a Mary (neu Malen) ei wraig. Dygwyd y mab i fyny'n grydd. Dechreuodd bregethu ar 21 Ebrill 1846 ac yna aeth i ysgol yng Nghastellnewydd Emlyn am dair blynedd. Yn 1857 symudodd i Lanilar i fyw, ac wedi iddo briodi Anne Rees, Pentredu, 6 Ionawr 1860, aeth i fyw i Bronnant, lle y treuliodd weddill ei oes, ar wahân i'w deithiau pregethwrol i wahanol fannau yng Nghymru ac i Lundain; darlithiai lawer hefyd. Daeth yn bur adnabyddus fel pregethwr oherwydd odrwydd ei ddull a'i ymadroddion, ac i fesur helaeth oherwydd y 'graddau,' Ll.B. a Litt.D., a gafodd (1891) mewn rhyw fodd na chafwyd hyd yn hyn esboniad cyflawn arno, o rywle yn Unol Daleithiau America. O'r ' New York Druidic Banchorrion ' y cafwyd y 'teitlau' hyn, yn ôl Cofiant y ' Dr. ' Rees gan J. M. Griffiths. Ysgrifennodd rai llyfrau - gweler y Cofiant - ac yr oedd iddo ddiddordeb mewn hynafiaethau a chasglu llyfrau. Bu farw 9 Rhagfyr 1904.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.