mab David Rees a Catherine ei wraig; ganwyd yn y Llain, Llanbadarn Trefeglwys, Sir Aberteifi, 15 Awst 1874. Cafodd ei addysg yn ysgol Ardwyn, Aberystwyth, ysgol y coleg, Llanbedr-Pont-Steffan, a Choleg Dewi Sant, a graddiodd yn B.A. yn 1896. Ar ôl treulio blwyddyn yng Ngholeg Mihangel Sant, Aberdâr, urddwyd ef yn ddiacon yn Rhagfyr 1897, ac yn offeiriad flwyddyn yn ddiweddarach. Bu am ddwy flynedd yn gurad yn Aberpennar, ac yna dychwelyd i Goleg Mihangel Sant yn ddarlithydd. Yn 1906 ymunodd â Chymdeithas yr Atgyfodiad yn Mirfield, sir Gaerefrog; bu yno am chwarter canrif, ac eithrio cyfnod o bum mlynedd (1914-9) pryd y bu'n gaplan yn y fyddin, ac ennill y ' Military Cross.' Bu'n esgob Llandaf o 1931 hyd ei farwolaeth, 29 Ebrill 1939. Claddwyd ef dan gysgod yr eglwys gadeiriol, ac y mae delw efydd ohono ar lawr Capel Mair yno. Yn ystod ei dymor byr fel esgob ymgyflwynodd Timothy Rees yn ddi-arbed i waith yr Eglwys a'r genedl. Yr oedd yn areithydd dan gamp yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac oherwydd ei wresogrwydd a'i ddiffuantrwydd, a ieuwyd â hunan-ddisgyblaeth lem, bu iddo ddylanwad dwfn ar bawb a ddaeth i gyffyrddiad ag ef.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.