Ganwyd yn Plymouth, 2 Gorffennaf 1834, trydydd mab James Meadows Rendel a Catherine ei wraig. Cafodd ei addysg yn Eton a Choleg Oriel, Rhydychen, gan raddio yn 1856; galwyd ef yn fargyfreithiwr, ac yna ymddiddorodd ym myd peiriannau. Yn ddiweddarach daeth yn bennaeth yn Llundain i gwmni gynnau Armstrong. Etholwyd ef i'r Senedd yn 1880 i gynrychioli sir Drefaldwyn fel aelod Rhyddfrydol; torrodd felly ar draws y traddodiad Ceidwadol a anfonasai aelod o deulu Wynnstay ers 80 mlynedd i gynrychioli'r sir. Daeth Rendel yn ebrwydd yn arweinydd cydnabyddedig ar yr aelodau seneddol Cymreig, a hyd ei ddyrchafiad i Dŷ'r Arglwyddi yn 1894 gwnaeth lawer er hyrwyddo buddiannau Cymreig. Bu'n flaenllaw gyda'r Ddeddf Addysg Ganolradd i Gymru (1889) a'r mesurau a gynigiwyd er datgysylltu Eglwys Loegr yng Nghymru. Yr oedd yn gyfaill mynwesol i W. E. Gladstone, a bu mewn cysylltiad agos ag ef pan oedd yn brif weinidog am y tro olaf (1892-4), yr adeg y bu cryn weithgarwch yn y Senedd ynghylch pethau Cymreig. Bu'n gymwynaswr hael i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan weithredu fel llywydd o 1895 hyd ei farw: gelwir y gadair Saesneg yno ar ei enw. Yn 1897 prynodd ddarn o dir ar fryn Grogythan, ger Aberystwyth, a'i gyflwyno er adeiladu Llyfrgell Genedlaethol Cymru arno.
Priododd Ellen, merch W. Egerton Hubbard, a bu iddynt bedair merch. Bu farw 4 Mehefin 1913 yn Llundain, a'i gladdu yn East Clendon, Surrey.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.