RICHARDS, DAVID (1822 - 1900), cerddor, etc.

Enw: David Richards
Dyddiad geni: 1822
Dyddiad marw: 1900
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor, etc.
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd mewn ffermdy o'r enw Ravel (neu ' Yr Efail'), ger Brynberian, Sir Benfro. Saer llongau oedd ei dad, ac yn ganwr da. Yn ieuanc symudodd o Frynberian i'r Blaenau, sir Fynwy, i weithio mewn glofa; penodwyd ef i arwain y canu yng nghapel Annibynwyr Berea. Meistrolodd Gramadeg Cerddorol Mills, a dysgai y cantorion yng nghyfundrefn gerddorol Hullah. Dychwelodd i gadw ysgol ym Mrynberian, ond ar wahoddiad y Parch. C. Gwion symudodd i gadw ysgol i Gefn Cantref, ger Aberhonddu. Yn 1851 aeth i Goleg Aberhonddu, a bu yno am bedair blynedd, a thra yno ef oedd arweinydd canu capel y Plough. Urddwyd ef yn weinidog eglwys Annibynnol Siloam, Llanelli, sir Frycheiniog, mis Medi 1855. Yn 1862 symudodd i Gaerffili, Morgannwg, yn weinidog ar eglwys Bethel. Gwnaeth lawer dros ganu cynulleidfaol, ac ysgrifennodd erthyglau a darlithio ar gerddoriaeth. Cyfansoddodd amryw donau a deuawdau, a cheir hwynt yn Y Diwygiwr, 1852, a chasgliadau tonau. Yn 1862 dug allan Sŵn Addoli, casgliad o donau yn cynnwys nifer fawr o alawon cysegredig Cymreig a gasglodd ar hyd a lled y wlad. Gwasnaethodd fel beirniad yn y cylchwyliau cerddorol. Bu farw 1 Mawrth 1900 a chladdwyd ef ym mynwent y Groeswen, Morgannwg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.