RICHARDS, JOHN (bu farw 1808), gweinidog y Bedyddwyr yng Nghastellnewydd Emlyn;

Enw: John Richards
Dyddiad marw: 1808
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog y Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: William Joseph Rhys

Anhysbys yw dyddiad ei eni, ond preswyliai ym Mlaengwyddon. Fe'i hurddwyd yng Nghastellnewydd ddiwedd 1778. Ef a ddechreuodd bregethu yn Llwyndafydd yn 1778, a symbylu'r gwrandawyr i godi capel yn 1779. Ef a fedyddiodd y saith cyntaf yn yr ' Engine ' (Glandŵr, Abertawe) a'u corffori'n eglwys yn 1780. Bugeiliai Soar, Llandyfn, 1793-5. Yng nghwrdd chwarter Chwefror 1796 cyflwynodd gynllun i addysgu pregethwyr ieuainc. Cyhoeddodd farwnad i David Powell y Notais yn 1797. Bu gyda'r Bedyddwyr Cyffredinol am saith mlynedd, ond dychwelodd yn 1807, a bu farw cyn cymanfa 1808.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.