RICHARDS, THOMAS (1687? - 1760), clerigwr ac awdur

Enw: Thomas Richards
Dyddiad geni: 1687?
Dyddiad marw: 1760
Rhiant: Richard Richards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: William Llewelyn Davies

Yn ôl Foster, ganwyd ef yn Llanychaearn (Ceredigion), yr fab i Richard Richards, ond y mae'n bosibi ei fod yn aelod o deulu Richards, Coed, gerllaw Dolgellau (gweler Richards, Caerynwch). Cafodd ei addysg yng Ngholeg Iesu, Rhydychen (ymaelodi 27 Mawrth 1708, yn 19 oed, graddio yn 1711); dywedodd Dr. Trapp, athro barddoniaeth ym Mhrifysgol Rhydychen, ei fod yn ystyried Richards y bardd Lladin gorau er adeg Fyrsil.

Dewiswyd ef yn rheithor y Drenewydd, Sir Drefaldwyn, 1713, yn ganon Llanelwy, 1718, ac yn rheithor segur-swydd Llansannan yn 1720 (a Phennant Melangell, 1725); cafodd reithoraeth Llanfyllin yn 1718 a'i chadw hyd y bu farw a'i gladdu yno yn 1760.

Cyfieithodd yn Gymraeg amryw o ganeuon poblogaidd Lloegr, cyhoeddodd farwnad Ladin i'r frenhines Caroline (London, 1737), Pregeth ar S. Luc ii, 10, 11 (London, 1727), a phregeth a draddododd ar 28 Ebrill 1732, yn y Drenewydd, ar farw Lady Pryce, gwraig Syr John Pryce, Newtown Hall (1732). Cyhoeddwyd yn Philosophical Transactions of the Royal Society lythyr ganddo ar bwnc y tân a fu ym Morfa Harlech, 1694. Yr oedd erbyn 1759 yn aelod gohebol o Gymdeithas y Cymmrodorion (a ffurfiwyd ym mis Medi 1751). Eithr ei waith mwyaf adnabyddus, serch ei fod yn brin, ydyw ei gân dychan, yn Lladin, wedi ei theitlo Χοιροχωρογραφία sive Hoglandiae Descriptio (London, 1709), a ysgrifennwyd i wrthateb i Muscipula (London, 1709), llyfryn gan E. Holdsworth yn difrïo Cymru a'i phobl. Cyhoeddodd hefyd wrthateb arall, gyda fersiwn Saesneg o dan y teitl Hogland: or a description of Hampshire. A Mock Heroic Poem in answer to Mr. Holdsworth's Muscipula (London, 1709) (ail argraffiad yn 1728). Rhydd J. H. Parry (yn The Cambrian Plutarch, 344) hanes y modd y bu i Richards ymgymryd â'r gwaith o ateb y dychanwr Seisnig.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.