Ganwyd 5 Mawrth 1851 yn Aberystwyth, mab hynaf Richard Davies Roberts, gwerthwr coed, a Sara Davies. Addysgwyd ef yn Aberystwyth, yng Nghroesoswallt, y Liverpool Institute, Coleg y Brifysgol, Llundain (B.Sc., dosbarth 1, daeareg, 1870; D.Sc. 1878), Coleg Clare, Caergrawnt (dosbarth 2, gwyddoniaeth naturiol, 1875). Bu'n ddarlithydd dros dro yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1876-7), darlithydd allanol ym Mhrifysgol Caergrawnt (1878-81), ysgrifennydd cynorthwyol pwyllgor darlithoedd lleol Prifysgol Caergrawnt (1881-94), cymrawd o Coleg Clare a darlithydd mewn daeareg yn y Brifysgol (1884), ysgrifennydd Cymdeithas Llundain i Ledaenu Addysg Prifysgol (1886), ysgrifennydd Cronfa Gilchrist a golygydd The University Extension Journal (1889), ysgrifennydd Bwrdd Prifysgol Caergrawnt i drefnu darlithoedd allanol (1894-1902), cofrestrydd adran allanol Prifysgol Llundain (1902-11). Cyhoeddodd Earth's History: An Introduction to Geology, 1893. Priododd, 1888, Mary King, Brighton. Bu farw yn Kensington, 11 Tachwedd 1911.
Daliai Roberts y dylid cyfrif addysg rhai mewn oed yn rhan hanfodol o gyfundrefn addysg Lloegr a Chymru, y dylai'r prifysgolion fod yn gyfrifol amdano, ac y dylid ychwanegu at eu nifer er mwyn sicrhau hyn. Fel lladmerydd, arweinydd, ac arloeswr, nid oedd personoliaeth amlycach. Credai mewn sefydlu coleg ynglŷn â phob prifysgol ar gyfer myfyrwyr rhanamser i ddyfarnu tystysgrifau, diplomau, a graddau yn holl bynciau'r brifysgol. Ei bwyslais ar safonau uchel a gwaith ysgrifenedig a arweiniodd i'r dosbarth tiwtorial; trefnodd ysgolion haf; pleidiodd 'matriculation' a sgoloriaethau i bobl mewn oed, a chynrychiolaeth i fudiadau cymdeithasol ar fyrddau allanol y prifysgolion. Gweithiodd dros sefydlu llyfrgelloedd cyhoeddus a chanolfannau megis Toynbee Hall. Tua diwedd ei oes, methodd weld pwysigrwydd undebau llafur, y mudiad cydweithredol, ac Undeb Addysg y Gweithwyr i'w waith. Fel ysgolhaig a threfnydd helpodd i sefydlu Prifysgol Cymru, ond dadleuai y dylai hi roi graddau 'di-breswyl' megis y gwnâi Llundain. Yr oedd yn ' Junior Deputy Chancellor ' yn 1903 ac yn gadeirydd pwyllgor gwaith y Brifysgol yn 1911.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.