Ganwyd 5 Ionawr 1819 yn Llansannan, sir Ddinbych, mab Peter Roberts, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Bu'n brentis mewn siop yn Abergele cyn mynd i Goleg (Methodistiaid Calfinaidd) y Bala. Wedyn bu'n cadw busnes yn Rhuddlan. Symudodd oddi yno i Ddinbych, lle y dechreuodd bregethu gyda'r Bedyddwyr; ordeiniwyd ef (29 Medi 1842) yn weinidog ar yr eglwys honno yn Ninbych; bu wedyn yn gweinidogaethu yn Lerpwl ac yn Rhymni, sir Fynwy, ac ar ôl hynny'n cadw siop yn y Rhyl. Ysgrifennai'n fynych i gyfnodolion a newyddiaduron, a chyhoeddodd amryw lyfrau (llyfrynnau, gan mwyaf), megis: Dyddanion, neu Hanesion Difyrus a Buddiol, 1838; Y Weithred o Fedyddio, 1849; Cerdd Allwyn, er Coffadwriaeth am E. Jones, 'Ieuan Gwynedd,' 1853; Palestina, 1851; Y Llenor Diwylliedig, sef Llawlyfr yr Ysgrifenydd, yr Areithydd, a'r Bardd, 1862; Mel-Ddyferion Barddonawl, 1862; ceir manylion ychwanegol (a rhestr gyflawn o'i weithiau cyhoeddedig) yn y 'byr-gofiant o'r awdwr' (gan ei nai, Edward Jones, Pwllheli) yn Gwaith Barddonol Iorwerth Glan Aled (Liverpool, 1890). Bu'n briod ddwywaith. Bu farw yn y Rhyl, 18 Chwefror 1867, a chladdwyd ef yn Llansannan.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.