Ganwyd yn Ciltalgarth, ger y Bala, c. 1644, mab Robert ap Hugh, o Lwyndedwydd, Llangwm, a gymerth Giltalgarth ar brydles. Ymunodd â'r Crynwyr yn 1666 a bu raid iddo ddioddef oherwydd hynny; ceir hanes am ddirwyo ei wraig ac yntau i ddecpunt yr un am addoli gyda'r Crynwyr yn Llwynybrain, Cwmtirmynach, 1675. Yr oedd yn un o'r dirprwywyr a aeth i Lundain yn 1681 i weled William Penn ynglŷn â sefydlu talaith Gymreig yn Pennsylvania; ymunodd, gydag 16 eraill o wŷr Penllyn, i brynu parsel o dir a alwyd yn Merion (yn y ' Welsh Tract') yn Pennsylvania; ef a arweiniodd yr ail fintai o ymsefydlwyr o Sir Feirionnydd dros y môr - cafodd docyn aelodaeth iddo ei hun a'i deulu, 2 Mai 1683, i'w trosglwyddo i Bennsylvania. Wedi iddo ymsefydlu yn America daeth yn bur adnabyddus ymysg y Crynwyr, a theithiai lawer i bregethu yn Maryland, Long Island, Rhode Island, a New England. Ymwelodd â Chymru yn 1688 ac eilwaith yn 1697/8 gan deithio i efengylu; dywed yn ei ddyddlyfr iddo, ar ei ail ymweliad, alw i weld William Penn yn Llundain. Daliai i bregethu a phrynu tiroedd hyd ei farwolaeth, yn Long Island, Efrog Newydd, yn ystod y chweched mis yn 1702; claddwyd ef ym Merion.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.