ROBERTS, JOHN (1806 - 1879), cerddor

Enw: John Roberts
Dyddiad geni: 1806
Dyddiad marw: 1879
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn Sarnau, ger y Bala. Yn fachgen llafuriai ar y ffermydd o gwmpas ei gartref. Symudodd yn ddyn ieuanc i Aberystwyth, lle y dysgodd y grefft o gerfio. Astudiodd gerddoriaeth, daeth yn gerddor da, a llafuriodd yn ddiwyd gyda cherddoriaeth y dref a'r ardaloedd cylchnol. Yn 1853 dug allan Perorydd y Cysegr yn cynnwys cant o donau - yn eu mysg y dôn ' Alexander,' 8.7.D., a'r flwyddyn 1824 wrthi. Ymddangosodd y dôn yn Greal y Bedyddwyr, 1833. Dywaid John Roberts iddo ei chyfansoddi yn 18 oed. Cyhoeddodd Seraff Cymru hefyd, yn cynnwys anthemau a chôrganau dan olygiaeth J. Wilks, organydd yn Aberystwyth. Yn 1855 symudodd i Aberdâr, a bu'n arwain y canu yng nghapel Bedyddwyr Penpound am flynyddoedd. Dychwelodd yn ôl i Aberystwyth yn 1873, ac yno y bu farw, 18 Tachwedd 1879. Claddwyd ef yng a nghladdfa Aberystwyth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.