ROBERTS, JOHN (1823 - 1893), chwaraewr biliards

Enw: John Roberts
Dyddiad geni: 1823
Dyddiad marw: 1893
Plentyn: John Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: chwaraewr biliards
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Walter Thomas Morgan

Ganwyd 12 Mehefin 1823; brodor o Lerpwl. Hanoedd ei rieni o ardal Holywell, Sir y Fflint, a medrai ef ei hun Gymraeg. Dechreuodd ei yrfa fel saer, ond yn fuan ymroes i filiards am ei fywoliaeth. Bu'n farciwr biliards yn Oldham ac wedyn yn oruchwyliwr yr Union Club Billiards Room ym Manceinion, 1845-52. Wedi hynny cadwai dafarn y Griffin yno. Yn 1849 heriodd Edwin Kentfield am yr anrhydedd o fod yn bencampwr Prydain, a phan wrthododd hwnnw chwarae'r ornest, hawliodd Roberts y teitl. Cydnabyddid ef yn bencampwr y deyrnas tan 1870, pan orchfygwyd ef gan ei ddisgybl, W. Cook, a orchfygwyd yn ei dro, yn 1885, gan John Roberts yr ieuengaf, mab John Roberts. Yr oedd yn awdur llyfr, sef Billiards (gol. gan Henry Buck), 1869. Bu farw yn ei dŷ ger Romford Road, Stratford, 27 Mawrth 1893.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.